Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 21 Hydref 2019
Amser:
11.30 -
12.37
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5613
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AC (Cadeirydd) Carwyn Jones AC Dai Lloyd AC |
Tystion: |
Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Frances Duffy, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru Tom Henderson, Llywodraeth Cymru Richard Lewis, Llywodraeth Cymru Jackie Price, Llywodraeth Cymru Sarah Tyler, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Rachael Davies (Dirprwy Glerc) Sara Moran (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Nia Moss (Ymchwilydd) |
Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies AC.
O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Dai Lloyd AC fuddiant perthnasol yn eitem 2.
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law hyd yma a nododd fod y Prif Weinidog wedi derbyn gwahoddiad y Pwyllgor i ddod i'w gyfarfod ar 25 Tachwedd i drafod Diwygio ein Hundeb yng nghyd-destun ymchwiliad y Pwyllgor.
Nododd y Pwyllgor ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a chytunodd i wahodd y Cwnsler Cyffredinol i roi tystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
Nododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ag ef.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal â hyn, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynghylch adolygiad o’r Cod Ymarfer ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad i dynnu sylw at faterion sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.
Nododd y Pwyllgor yr offeryn a’r llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Cafodd y Pwyllgor gopi caled o’r llythyr cyn y cyfarfod, ac roedd yn fodlon ag ef.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog ac, fel y nodwyd yn flaenorol, roedd y Prif Weinidog wedi cytuno i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf hon gan Lywodraeth Cymru: